Breuddwyd Glyndwr (The Dream Of Glyndower

Safodd Glyndur ar fynyddoedd Meirionnydd

A chysgod y plygain yn drwm ar ei wedd

Clywodd riddfanau yn esgyn o'r cymoedd

Plygodd i wrando, a'i bwys ar ei gledd.

Safodd yn hir ar fynyddoedd Meirionnydd

A'i galon yn gwaedu dros gyflwr ei wlad.

Breuddwydiodd am uno ei genedl ranedig,

Chwifiodd ei gleddyf ym mhoethder y gad.

Plygodd i farw dan gysgod y creigiau,

Canodd wrth huno a gwenodd drwy'i hun.

Gwelodd y wawrddydd yn gwynu'r mynyddoedd

A'i genedl yng ngolau'r dyfodol yn un.